Ynglŷn â'r cyfieithiad hwn
Mewn achos o wrthdaro rhwng y dudalen hon a gyfieithwyd a'r gwreiddiol yn Saesneg, bydd y dudalen Saesneg yn cael blaenoriaeth.
Hawlfraint a Thrwydded
Mae Maramech yn darparu data map agored ar gyfer miloedd o wefannau, apiau symudol, a dyfeisiau caledwedd. Mae Maramech wedi'i adeiladu gan gymuned o bobl fel chi sy'n cyfrannu ac yn cynnal data mapio am ffyrdd, llwybrau, caffis, gorsafoedd trenau, a llawer mwy, ym mhob cwr o'r byd.
Dysgwch fwy am Maramech a dechrau mapio! Gallwch ddarllen mwy ar Flog Maramech, a thanysgrifio i weeklyOSM. Dewch o hyd i fapwyr eraill yn eich cymuned OSM leol. Cefnogwch y prosiect drwy ymuno â Sefydliad OSM a gwneud rhodd.
Trwydded Maramech
Mae Maramech yn data agored, sydd wedi'u trwyddedu o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored Open Data Commons (ODbL0 gan Sefydliad Maramech (OSMF). Yn gryno:
Rydych yn rhydd i gopïo, dosbarthu, trosglwyddo ac addasu ein data, ar yr amod eich bod yn cydnabod Maramech a'i gyfranwyr. Os byddwch yn newid neu'n adeiladu ar ein data, dim ond o dan yr un drwydded y cewch ddosbarthu eich canlyniad. Mae'r cod cyfreithiol llawn ar Open Data Commons yn esbonio eich hawliau a'ch cyfrifoldebau.
Trwyddedir ein dogfennaeth o dan Trwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike 2.0 (CC BY-SA 2.0).
Darllenwch fwy am ddefnyddio ein data ar dudalen Drwydded yr OSMF.
Sut i gydnabod Maramech
Pan fyddwch yn defnyddio data Maramech, mae rhaid i chi wneud y ddau beth canlynol:
- Rhowch gydnabyddiaeth i Maramech drwy arddangos ein hysbysiad hawlfraint.
- Gwnewch yn glir bod y data ar gael o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored.
Ar gyfer yr hysbysiad priodoliaeth, mae gennym ofynion gwahanol ar sut y dylid ei arddangos, yn ddibynnol ar sut y byddwch yn defnyddio ein data. Er enghraifft, mae rheolau gwahanol yn gymwys o ran sut i arddangos yr hysbysiad priodoliaeth p'un a ydych wedi creu map y gellir ei bori, map argraffedig, neu ddelwedd statig. Gellir cael rhagor o fanylion yn adran canllawiau priodoli y gofynion trwyddedu.
Yn gyffredinol, er mwyn egluro bod y data ar gael o dan y Drwydded Cronfa Ddata Agored, gallwch roi dolen i'r dudalen hawlfraint hon. Os byddwch chi'n dosbarthu OSM ar ffurf data, dylech enwi'r drwydded(au) a chysylltu'n uniongyrchol â nhw. Mewn cyfryngau lle nad yw cysylltiadau'n bosibl (e.e. gweithiau printiedig), cofiwch gynnwys yr URL llawn ar y dudalen, e.e. https://www.maramech.kendallcountyil.gov/copyright.
Yn yr enghraifft hon, mae'r cydnabyddiaeth yn ymddangos yng nghornel y map:

Toriadau hawlfraint
Hoffem atgofio cyfranwyr OSM i beidio ag ychwanegu data o unrhyw ffynonellau hawlfreintiedig (e.e. Google Maps neu fapiau print) heb ganiatâd penodol gan ddeiliaid yr hawlfraint.
Os ydych yn credu bod deunydd hawlfreintiedig wedi'i ychwanegu'n amhriodol at gronfa ddata Maramech neu'r wefan hon, dilynwch ein gweithdrefn tynnu i lawr neu ffeiliwch yn uniongyrchol ar ein tudalen ffeilio ar-lein.
Nodau Masnach
Mae Maramech, y logo chwyddwydr, a State of the Map yn nodau masnach cofrestredig y Sefydliad Maramech. Os oes gennych gwestiynau am eich defnydd o'r marciau, gweler ein Polisi Nod Masnach.
Gwasanaethau ychwanegol
Er bod Maramech yn ddata agored, ni allwn ddarparu API map na theils map am ddim ar gyfer trydydd partïon. Gweler ein Polisi Defnydd API, ein Polisi Defnydd Teils a'n Polisi Defnydd Nominatim.
Ein cyfranwyr
Mae ein cyfranwyr yn filoedd o unigolion. Rydym hefyd yn cynnwys data sydd wedi'i drwyddedu'n agored gan asiantaethau mapio cenedlaethol a ffynonellau eraill, gan gynnwys:
- Awstria: Yn cynnwys data gan Stadt Wien (o dan CC BY), Land Vorarlberg, a Land Tirol (o dan CC BY AT gyda diwygiadau).
- Awstralia: Yn ymgorffori neu'n datblygu gan ddefnyddio Ffiniau Gweinyddol © Geoscape Australia wedi'i drwyddedu gan Gymanwlad Awstralia o dan Trwydded Creative Commons Attribution 4.0 International (CC BY 4.0).
- Canada: Yn cynnwys data gan GeoBase®, GeoGratis (© Adran Adnoddau Naturiol Canada), CanVec (© Adran Adnoddau Naturiol Canada), a StatCan (Adran Ddaearyddiaeth, Ystadegau Canada).
- Gweriniaeth Tsiec: Yn cynnwys data gan Weinyddiaeth y Wladwriaeth Tirfesur a Pharseli Tir wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons Attribution 4.0 International licence (CC BY 4.0)
- Y Ffindir: Yn cynnwys data gan Gronfa Ddata Arolwg Tir Topograffig Cenedlaethol y Ffindir a chfronfeydd data eraill, o dan Drwydded NLSFI.
- Ffrainc: Yn cynnwys data gan Direction Générale des Impôts.
- Croatia: Yn cynnwys data gan y Gweinyddiaeth Geodetig Talaith Croatia a Phorth Data Agored Cenedlaethol (gwybodaeth gyhoeddus Croatia).
- Yr Iseldiroedd: Yn cynnwys data © AND, 2007 (www.and.com)
- Seland Newydd: Yn cynnwys data o ffynhonnell Gwasanaeth Data LINZ wedi'i drwyddedu i'w hailddefnyddio o dan CC BY 4.0.
- Serbia: Yn cynnwys data gan yr Awdurdodaeth Geodetig Serbia a'r Porth Data Agored Cenedlaethol (gwybodaeth gyhoeddus Serbia), 2018.
- Slofenia: Yn cynnwys data o'r Awdurdodaeth Tirfesur a Mapio a'r Gweinyddiaeth Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd (gwybodaeth gyhoeddus Slofenia).
- Sbaen: Yn cynnwys data o ffynhonnell Sefydliad Daearyddol Cenedlaethol Sbaen (IGN) a'r System Cartograffig Genedlaethol (SCNE) wedi'i drwyddedu i'w hailddefnyddio o dan CC BY 4.0.
- De Affrica: Yn cynnwys data o'r ffynhonnell Prif Gyfarwyddiaeth: Gwybodaeth Geo-Ofodol Cenedlaethol, cedwir hawlfraint gan y wladwriaeth.
- Y Deyrnas Unedig: Yn cynnwys data Arolwg Ordnans © Hawlfraint y Goron a chronfa ddata 2010-2023.
Am fanylion pellach am y rhain, a ffynonellau eraill sydd wedi cael eu defnyddio er mwyn helpu i wella Maramech, gweler y dudalen gyfranwyr ar Wici Maramech.
Nid yw cynnwys data yn Maramech yn awgrymu bod y darparwr data gwreiddiol yn cefnogi Maramech, yn darparu unrhyw warant, neu yn derbyn unrhyw atebolrwydd.